Canolfan Asesu Sengl

Mae’r Ganolfan Asesu Sengl yn darparu llety brys ar gyfer pobl ddigartref sengl.  Mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaeth 24 awr ac asesiadau amlddisgyblaethol i’n helpu i ddiwallu anghenion ein cleient.

Mae ein Swyddogion Gwasanaeth Hostel ar y safle ac ar gael i gefnogi preswylwyr 24 awr y dydd.

Mae staff allgymorth yn ymweld â’r ganolfan i ddarparu cymorth un-i-un.  Mae hyn yn helpu cleientiaid i gael mynediad at wasanaethau ac yn eu cefnogi i fyw’n annibynnol.

Mae yna Swyddog Gweithgareddau Dargyfeirio wedi’i leoli yn y ganolfan er mwyn annog cleientiaid i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y meysydd canlynol:

  • chwaraeon a hamdden
  • addysg a hyfforddiant
  • iechyd a lles

Gall preswylwyr hefyd gael mynediad at wasanaethau clinigwyr gan gynnwys:

  • Gwasanaeth galw heibio wythnosol i feddygon teulu
  • Practis nyrsys
  • Cynghorwyr
  • Therapydd Galwedigaethol
Rhannwch