Amdanom ni

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i helpu i gefnogi eich iechyd a’ch lles. Drwy gymryd rhan gallwch lenwi eich amser sbâr gyda rhywbeth cynhyrchiol a gwerth chweil.

 

Cwrdd â’r tîm

Diversionary Activities Team and clients at the top of Pen Y Fan

Tîm Gweithgareddau Dargyfeiriol

Sefydlwyd y Tîm Gweithgareddau Dargyfeiriol i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn diwylliant stryd negyddol. Nodir y gofyniad hwn yn y Strategaeth Ddigartrefedd 2018 – 2022  a Strategaeth Cysgu ar y Stryd 2017 – 2021. Nod y tîm yw rhoi cyfleoedd i’n cwsmeriaid gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon a gwerth chweil sy’n helpu i adeiladu eu gallu i symud i fyw’n annibynnol.

 

Tîm Amlddisgyblaeth

Gan weithio ag ystod o bartneriaid, mae’r Tîm Amlddisgyblaethol wedi’i sefydlu i dargedu’r bobl hynny sy’n cael eu dal yn y cylch digartrefedd di-baid a chyfnodau hir o gysgu ar y stryd.

Yn gweithio yn y Ganolfan Asesiad Unigol, bydd y tîm yn cynnig mynediad brys at asesu, cyngor, cymorth ac ymyriadau lleihau niwed.

 

Tîm Allgymorth

Mae’r Tîm Allgymorth ar strydoedd Caerdydd bob diwrnod yn ymgysylltu â phobl sy’n cysgu ar y stryd neu sy’n wynebu risg o fod yn ddigartref. Rydym yn gweithio ledled y ddinas yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol er mwyn cynorthwyo pobl i ddefnyddio gwasanaethau priodol.

Mae’r tîm Allgymorth yn gweithio mewn partneriaeth â:

Mae’r Tîm Allgymorth yn cynnal cyfarfodydd wythnosol gyda phartneriaid i sicrhau y gallwn nodi ac ymgysylltu â phobl sy’n cysgu ar y stryd a phobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref cyn gynted â phosibl.